Nid wy'n ofni tir y bywyd,
Hwnw 'nghartref hyfryd yw;
Ond 'rwy'n ofni yr agendor
Fawr sydd rhwng
y marw a'r byw:
Angeu dwfn yw'r Iorddonen
Wyf o hyd yn ofni ei brad;
Tonau ynt sydd raid myn'd trwyddynt,
Maes o'r byd i dŷ fy Nhad.
2 Mi anturiaf, rhaid yw cynnyg,
Nofio tonau,
er maint eu grym,
Na fum etto, er y'm ganwyd
Mewn fath donau mawrion ddim:
Gallu'r nefoedd fawr ei hunan
Ddeil fy enaid llesg i'r lan;
Gras yn marw ar Galfaria
Ydyw noddfa'm hysbryd gwan.
3 O bob enw yn mhlith dynion,
Dyna'r enw goreu i gyd -
Duw dan hoelion ar y croesbren,
Yno'n marw dros y byd;
Gwaed yn llifo ar Galfaria,
Môr o haeddiant, môr o hedd,
Od oes dim a saif i fyny,
Saif yn erbyn
angeu a'r bedd.
4 Ofni'r wyf, ac etto canu,
Canu wrth feddwl am y dydd,
Dan ymdrechu âg angeu creulon,
'R â pob cadwyn gref yn rhydd;
Cyll pleserau'n lân eu gafael
Os bydd angeu'n gongcrwr mawr;
Os y bedd ga'r fuddugoliaeth,
Fe gwymp pechod yntau i lawr.
5 Cyll y pechod hwnw 'i afael
Fynai f'ysbryd dan ei droed,
Hwnw barodd i mi riddfan
Lawer cant o weithiau 'rioed;
Diwedd caru unrhyw bleser,
Dechreu hyfryd
haf o hedd,
Pan bo angeu'n gorfoleddu,
Ac yn chwerthin ar y bedd.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Tyred Arglwydd i'r anialwch |
I am not fearing the land of life,
That is my delightful home;
But I am fearing the great
Gulf that is between
the dying and the living:
Deep death is the Jordan
I am still fearing its treachery;
Waves there are that I must go through,
Out of the world to my Father's house.
I will venture, it is necessary to offer,
To swim waves,
despite how great their force,
I have never yet, although I was born
In such great waves, at all:
The power of great heaven itself
Shall hold my feeble soul up;
Grace dying on Calvary
Is the refuge of my weak spirit.
Of every name among men,
That is the best name of all -
God under nails on the wooden cross,
There dying for the world;
Blood flowing on Calvary,
A sea of merit, a sea of peace,
If there is any shall stand up,
It shall stand against
death and the grave.
Fearing I am, and yet singing,
Singing while thinking about the day,
While overcoming cruel death,
Every strong chain shall go free;
Pleasures shall completely lose their grasp
If death shall be a great conqueror;
If the grave shall get the victory,
Sin itself shall fall down.
That sin shall lose its grasp
That kept my spirit under its foot,
That caused me to groan
Many a hundred of times already;
The end of loving any pleasure,
The beginning of a delightful
summer of peace,
When death be rejoicing,
And laughing at the grave.
tr. 2022 Richard B Gillion
|
|